Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Hydref 2022
Amser:
09.59 -
11.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12991
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd James Owen, Llywodraeth Cymru Hannah Fernandez, Llywodraeth Cymru Dorian Brunt, Llywodraeth Cymru Bill Cordingley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Robert Donovan, Clerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Katy Orford, Ymchwilydd Katie Wyatt, Cynghorydd Cyfreithiol Masudah Ali, Cynghorydd Cyfreithiol Gruffydd Owen, Cynghorydd Cyfreithiol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
1.3 Dywedodd Samuel Kurtz AS ei fod yn un o gyfarwyddwyr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.2 Llythyr gan Weinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
3 Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru.
3.2 Byddai’r Pwyllgor yn cael nodyn yn cadarnhau bod y Gweinidog o’r farn nad yw darpariaethau adran 28 o Fil Amaethyddiaeth (Cymru) - yn ymwneud â’r dibenion y gellir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer - yn cynnwys gwerthu data i drydydd partïon.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Preifat
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol gyda’r Gweinidog.